Mae’r cyfan o Fwrdeistref Sirol Caerffili wedi ei lleoli mewn Ardal a Gynorthwyir, sy’n golygu bod ganddi’r potensial i ddenu’r lefel uchaf o gymorth grant. Mae pob grant yn ôl disgresiwn, a gall meini prawf cymhwyster gynnwys creu neu ddiogelu swyddi.
Dyfarnwyd statws Amcan 1 Ewropeaidd i’r Fwrdeistref Sirol, a fydd yn caniatáu mynediad i gronfa o tua £1.2 biliwn o 2000 i 2006. Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn un o bymtheg ardal Amcan 1 yng Nghymru.
Daeth cyllid Amcan 1 y Rhaglen Ariannu Ewropeaidd yn ei ffurf bresennol i ben yn 2006. Nod y rhaglen oedd cynyddu ffyniant economïau sydd, ar hyn o bryd, yn is na’r cyfartaledd Ewropeaidd. Mae ardaloedd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd eisoes wedi cymhwyso ar gyfer cyllid Amcan 1 oherwydd bod y Cynnyrch Domestig Gros yn llai na 75% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd.
O 2007, mae rhaglen ariannu newydd o’r enw Rhaglen Gydgyfeirio, a fydd ar waith tan 2013. Unwaith eto, cylch gwaith y cyllid hwn fydd parhau â’r rhaglen adfywio economaidd trwy gynyddu’r Cynnyrch Domestig Gros yn y rhanbarth.
Am ragor o wybodaeth am gymorth busnes ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, cysylltwch â ni.