Mae creu amgylchedd gwaith dymunol wedi bod yn uchel ar agenda Parc Busnes Oakdale. Ers cwblhau’r gwaith adfer a chloddwaith, plannwyd miloedd o goed a llwyni wrth i’r tir gael ei adfer. Cwblhawyd y gwaith plannu sylweddol yn gynnar yn 2001, a bydd gwaith i gwblhau a chaboli’r tirlunio yn parhau.
Mae’r llwyfandiroedd datblygu wedi elwa ar welliannau amgylcheddol fel rhan o’r Cynllun Rheoli Tirwedd, sydd eto wedi derbyn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a hefyd gan Awdurdod Datblygu Cymru. Mae Capita Symonds Ltd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r cynllun rheoli.
Cwblhawyd y gwaith adfer, ac yn wahanol i nifer o safleoedd diwydiannol eraill, mae’r holl ardal wedi ei drawsnewid drwy waith tirlunio helaeth. Crëwyd amgylchedd parc gwledig a fydd yn bleser i weithio ynddo.
Ymgymerwyd â gwaith i reoli’r planhigfeydd presennol i gynyddu amrywiaeth strwythurol a rhywogaethol, ac mae’r Cynllun Rheoli Coetir yn rhan o’r Cynllun Rheoli Tirwedd. Ymgorfforwyd cyfanswm syfrdanol o 144,000 o blanhigion i mewn i’r safle cyfan. Yn bennaf defnyddiwyd coetir Derw a Bedw gyda choed Onn, Ffawydd a Cheirios, a’r rhain sy’n ffurfio prif strwythur tirwedd y safle. Mae pob llwyfandir wedi ei hadu gyda glaswellt brodorol a meillion.
Mae rheoli ecoleg y safle yn ffurfio rhan sylweddol o’r Cynllun Rheoli Tirwedd, ac ymgymerir â gwaith pellach i wella’r cynefinoedd, yn enwedig yn yr ardaloedd o goetir gwlyb a’r glaswelltir.
Bwriedir clirio’r pyllau naturiol islaw Llwyfandir 1, a chael gwared ar y gwaddodion i greu ecosystem dŵr agored. Caiff y glaswelltir ei reoli i annog bywyd gwyllt, yn enwedig er mwyn cynyddu nifer yr ehedyddion, sy’n prysur brinhau.