Y Pafiliynau | Y Goeden Geirios
Mae portffolio o ddatblygiad cymysg wedi ei gynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn amrywio o unedau diwydiannol i ganolfan arloesi gyda’r offer diweddaraf, a bydd yn bwrw ymlaen gyda datblygiad Parc Busnes Oakdale, gan adeiladu ar lwyddiant camau 1 a 2. Mae’r portffolio arfaethedig yn amlinellu cam nesaf cyfres o ddatblygiadau graddol i greu cyfanswm o 150,000 troedfedd sgwâr o adeiladau busnes o ansawdd mewn tri lleoliad strategol o fewn y safle 170 erw, er mwyn darparu ystod o adeiladau sy’n canolbwyntio ar anghenion busnesau sydd wedi eu lleoli yn yr ardal, neu sy’n bwriadu symud i’r ardal. Disgwylir iddynt ddarparu’r symbyliad a’r catalydd ar gyfer buddsoddiad sector preifat dros y deng mlynedd nesaf.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael £9.4 miliwn o gyllid ar gyfer Portffolio Datblygu Strategol Oakdale. Mae’r cyllid yn cynnwys grant Amcan 1 o £3.5 miliwn a chafodd arian ychwanegol ei roi gan Gronfa Adfywio Lleol Llywodraeth Cynulliad Cymru o £5.9 miliwn.
Mae’r cynnig hwn yn ffurfio rhan o raglen adeiladu cyfalaf barhaus y Cyngor, sy’n cydnabod yr angen am ystod o adeiladau sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau a defnyddwyr. Bydd parc swyddfeydd porth y de yn darparu adeiladau swyddfa ychwanegol yn Oakdale, o fewn cyrraedd canol tref llewyrchus Coed Duon. Ar ôl cwblhau Ffordd Fenter Sirhywi – bydd y swyddfeydd o fewn pum munud i ganol y dref.
Mae cynigion ar gyfer y dyfodol ar gyfer y safle yn cynnwys canolfan fusnes, 3 pafiliwn swyddfa pellach ac adeilad carbon isel.
Bydd datblygiad dramatig y Pafiliynau ar ochr orllewinol y parc busnes yn cadarnhau safle Parc Busnes Oakdale fel lleoliad ar gyfer busnes modern. Bwriedir lleoli’r datblygiad porth hwn ar safle blaenllaw llwyfandir 4 lle mae Ffordd Fenter Sirhywi yn arwain i’r parc busnes.
Mae gan y datblygiad hwn y potensial i gael ei adeiladu mewn dau gam, ac mae’r cynigion presennol ar gyfer darparu 35,000 troedfedd sgwâr (3,251 metr sgwâr) o adeiladau swyddfa gyda’r cyfarpar diweddaraf mewn tri adeilad.
Caiff yr unedau eu hadeiladu er mwyn cyflawni cyfradd ragoriaeth BREEAM, ac mae’r cynigion yn amodol ar gyllid.
Bydd y datblygiad swyddfa hwn ar ochr ddwyreiniol y parc busnes yn darparu porth trawiadol ar y gylchfan wrth y fynedfa i Barc Busnes Oakdale. Mae’r datblygiad yn cynnwys 10,000 troedfedd sgwâr (929 metr sgwâr) o swyddfeydd ar 2 lawr.
Mae’r safle hwn yn ddelfrydol ar gyfer busnesau technoleg uchel sy’n seiliedig ar wybodaeth, yn ogystal â darparu cyfleusterau Ymchwil a Datblygu ar gyfer busnesau lleol.
Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o ddyluniad yr adeilad hwn a chafodd ei ddylunio i gyflawni sgôr BREEAM ardderchog.
Ar gael ar unwaith i’w osod yn gyfan gwbl neu ar sail llawr-wrth-lawr.